Rhif Deiseb: P-06-1345

Teitl y ddeiseb: Gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl megis Castell Rhiw'r Perrai

Testun y ddeiseb:

Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, yn un o ddim ond llond llaw o Gestyll Pasiant sydd ar ôl yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a bu Siarl I a'r fyddin yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941 cafodd ei ddinistrio gan dân ac mae’n adfail mewn perygl o hyd. Mae’n heneb gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio oherwydd perchnogaeth breifat. Mae un o’r tyrau wedi disgyn a heb ymyrraeth ystyriol bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan…

Mae henebion cofrestredig yn cael eu hamddiffyn i warchod archaeoleg ac adeiladau fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu dysgu o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, mae angen i eraill gael eu rheoli er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i berchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth (CMP) i lywio eu penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a cholled dilynol. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella’r heneb, er mwyn peidio â difrodi’r hyn sy’n arbennig a gwarantu ein bod yn trosglwyddo’r hyn sy’n werthfawr i genedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau nad yw henebion sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai yn cael eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau sylweddol o’n treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein lles. Mae'r gymuned wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd https://www.ruperracastle.wales/about-us-283027.html.


1.        Cefndir

1.1.            Deddfwriaeth

Y prif arfau sydd gan Lywodraeth Cymru i warchod yr amgylchedd hanesyddol yw rhestru adeiladau a chofrestru henebion. Mae henebion cofrestredig yn safleoedd archaeolegol gwarchodedig ac yn adfeilion hanesyddol gwag. Fe'u dewisir i gynrychioli’r holl weithgareddau dynol o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw.

Mae tua 4,200 o henebion cofrestredig a 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru. O'r rhain, dim ond tua 130 o henebion y mae Cadw yn berchen arnynt ac yn gofalu amdanynt (is-adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru).

Y prif ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r gwaith o’u diogelu a’u rheoli ar hyn o bryd yw:

-      Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979

o   Cofrestru henebion sydd o bwys cenedlaethol

o   Rheoli gwaith ar henebion cofrestredig drwy’r broses cydsyniad heneb gofrestredig

o   Camau yn erbyn gwaith anawdurdodedig neu ddifrod bwriadol i henebion cofrestredig

o   Caffael henebion hynafol a’u  gwarcheidiaeth

-      Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Diwygiadau i’r ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys:

o   Ymgynghori, gwarchodaeth interim ac adolygu penderfyniadau i ddynodi asedau hanesyddol

o   Ymestyn y diffiniad o heneb gofrestredig

o   Diwygiadau i'r troseddau a'r amddiffyniadau ar gyfer difrod i henebion cofrestredig

o   Cyflwyno hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop dros dro ar gyfer henebion cofrestredig

o   Diwygiadau i’r broses cydsyniad heneb gofrestredig

o   Pŵer mynediad ar gyfer ymchwiliad archaeolegol i henebion hynafol sydd mewn perygl o gael eu difrodi neu eu dinistrio

o   Cyflwyno cytundebau partneriaeth treftadaeth (yn ôl Cadw, “Mae cytundebau partneriaeth dreftadaeth yn dod â pherchnogion, awdurdodau sy’n rhoi caniatâd a phartïon eraill sydd â diddordeb at ei gilydd i greu cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer asedau hanesyddol. Mae’r cynlluniau’n cwmpasu rhaglenni gwaith a gytunwyd ac yn cynnwys cydsyniadau henebion cofrestredig a/neu adeiladau rhestredig”).

Nod cofrestru yw gwarchod y dystiolaeth archaeolegol sydd wedi goroesi o fewn safleoedd a henebion. Mae hyn yn cynnwys ffabrig ffisegol yr heneb ac unrhyw arteffactau cysylltiedig a thystiolaeth amgylcheddol, megis paill neu hadau.

Mae hyn yn golygu, os yw’r tirfeddiannwr am wneud gwaith a fyddai’n newid heneb gofrestredig yn ffisegol, mae’n debyg y bydd angen iddo wneud cais i Cadw am ganiatâd a elwir yn gydsyniad heneb gofrestredig. Bwriad y broses cydsyniad heneb gofrestredig yw gwarchod yr heneb, ei leoliad a’i nodweddion rhag gwaith anghydnaws a allai niweidio ei phwysigrwydd cenedlaethol.

Mae swyddogion Cadw hefyd yn ymweld â henebion cofrestredig a'u perchnogion o bryd i'w gilydd i wirio cyflwr y safle ac i gynnig cyngor ar reoli'r heneb.

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol ar berchnogion i gadw heneb gofrestredig mewn cyflwr da na chynhyrchu Cynlluniau Rheoli Cadwraeth, hyd yn oed os yw’r heneb mewn perygl. Yn yr un modd, er bod Cadw yn annog gwaith cynnal a chadw da ar adeiladau rhestredig, nid oes unrhyw rwymedigaeth ffurfiol ar berchnogion i wneud hynny.

1.2.          Cynlluniau Rheoli Cadwraeth

Fel yr amlinellwyd gan Cadw, mae cynllun rheoli cadwraeth yn ddogfen sy’n esbonio pam mae heneb neu le hanesyddol yn arwyddocaol a sut [mae’n bosibl] cynnal yr arwyddocâd hwnnw mewn unrhyw ddefnydd, addasiad, atgyweiriad neu reolaeth newydd.

Nod cynllun rheoli cadwraeth yw nodi risgiau, archwilio cyfleoedd i wella, ac amlygu arwyddocâd heneb. Mae cynlluniau rheoli cadwraeth yn aml yn rhagofyniad ar gyfer cyllid gan gyrff fel Cadw neu Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

1.3.          Castell Rhiw’r Perrai

Mae Castell Rhiw'r Perrai yn adeilad rhestredig Gradd II* (adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig) ac yn Heneb Gofrestredig. Rhestrir ei diroedd ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Adeiladwyd y castell ym 1626, ac mae wedi bod mewn perchnogaeth breifat ers 1998. Mae’r perchennog presennol wedi bod yno ers 2014. 

Ffurfiwyd y grŵp pwyso Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw’r Perrai ym 1996, ac mae wedi lobïo i “atal datblygiad amhriodol ac achub Castell Rhiw'r Perrai”. Gellir dod o hyd i'w phrif amcan ac amserlen y gwrthwynebiad i ddatblygiadau yng Nghastell Rhiw'r Perrai yma. Dywed Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Rhiw'r Perrai:

“Ein gweledigaeth yw gwarchod Castell Rhiw’r Perrai a’r amgylchedd o amgylch y safle hanesyddol hwn rhag datblygiadau amhriodol. Rydym am fod yn berchen ar y Castell a defnyddio amrywiaeth o ffrydiau ariannu i:

-      Atgyweirio’r Castell fel adfail â tho fel y gellir ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

-      Rheoli'r gerddi, y tir a'r adeiladau allanol gyda gofalwr yn byw ar y safle

-      Ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer treftadaeth, archeoleg, garddio, a hyfforddiant sgiliau

-      I goffáu cyfnodau allweddol yn ei hanes

-      Annog mynediad cyhoeddus cynaliadwy

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei hymateb dyddiedig 9 Mehefin 2023, cydnabu Llywodraeth Cymru fod cynlluniau rheoli cadwraeth yn offeryn defnyddiol a ddefnyddir gan berchnogion a rheolwyr asedau treftadaeth i nodi arwyddocâd ased treftadaeth, a sut i gadw a rheoli’r ased. Fodd bynnag, nid ydynt yn cefnogi gweithredu cynlluniau rheoli cadwraeth gorfodol.

Mae’r llythyr yn nodi:

“…ni fyddai’n briodol cymhwyso’r fethodoleg hon [cynlluniau rheoli gorfodol] yn gyfan gwbl i lawer o henebion cofrestredig llai a symlach sydd mewn perygl yng Nghymru. Byddai gwneud cynlluniau o'r fath yn orfodol hefyd yn gofyn am ddeddfwriaeth newydd. Gwnaed newidiadau helaeth i’r gyfraith i wella’r amddiffyniad ar gyfer henebion cofrestredig yn 2016 gyda Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Er gwaethaf ymgynghori helaeth nid oedd unrhyw alwadau am gynlluniau rheoli cadwraeth gorfodol. Mewn gwirionedd, byddai cynnig o’r fath yn anghymesur o ran maint a chost, ac mewn llawer o achosion yn anghyraeddadwy.”

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.